Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cymeradwywyd yr
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais ac, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi
a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn Adran 7 yr adroddiad,
bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.
Nodwyd fod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac
awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo gan y
Bwrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 14/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru