Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y
cais
- Mae’r bwriad yn un sydd yn agored iawn i niwed ac
sydd wedi ei leoli oddi fewn i barth llifogydd C1. Nid yw’r bwriad yn rhan o strategaeth
adfywio neu strategaeth gan yr awdurdod lleol nag ychwaith yn cyfrannu at
amcanion cyflogaeth allweddol sy’n cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol a
phartneriaid allweddol eraill. Nid
yw’r bwriad ychwaith wedi ei leoli ar dir a ddatblygwyd o’r blaen ac mae’r
Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais wedi methu dangos fod risgiau a chanlyniadau
llifogydd yn gallu cael ei reoli i lefel derbyniol. Nid yw’r bwriad felly yn cwrdd gyda’r
gofynion cyfiawnhad a geir ym mharagraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol
Cymru : Datblygiad a Pherygl o Lifogydd ac yn sgil hynny mae hefyd yn
groes i ofynion Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
- Nid yw’r cynnydd yn y niferoedd arfaethedig o
garafanau gwyliau sefydlog yn fach, nac yn gydnaws a graddfa’r gwelliannau
a fwriedir i’r safle ac mae uwchlaw’r cynnydd o 10% argymhellir i’r
niferoedd gwreiddiol ar y safle, felly yn groes i egwyddorion pwynt 4 o
bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a’r Canllaw Cynllunio
Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.
- Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i faterion tirweddu
fel rhan o’r cynnig. Yn sgil hyn ni
ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at gynnal neu wella’r tirwedd a bod
y bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: