Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol A.H.N.E Llŷn
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
- Penderfynwyd
i’r Swyddog AHNE Llŷn grynhoi sylwadau’r Cydbwyllgor a’u cyflwyno yn
yr ymgynghoriad sy’n agored ar y datblygiad Clwyd Alun yn Safle Penrhos.
Yn ogystal byddai’r Swyddog AHNE Llŷn yn rhannu linc i’r ymgynghoriad
efo’r Cydbwyllgor fel bod modd i Aelodau gyflwyno sylwadau’n unigol.
- Penderfynwyd
cynnal Cyfarfod Arbennig i drafod datblygiad posib Paneli Solar ar dir
Coed y Wern pan yn berthnasol am y gallai’r safle fod yn weladwy o’r AHNE.
Eglurwyd ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd oherwydd nid oes cais
cynllunio wedi ei ddarparu eto ond yn hytrach cais cyn-gynllunio. Mae’n
debygol y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno maes o law.
- Penderfynwyd fod gwahoddiad yn cael ei anfon i aelodau’r Cydbwyllgor i
fynychu’r Gynhadledd Twristiaeth, Digwyddiad Economi Ymweld
Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 fydd yn cael ei gynnal ar 30 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2021 - Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol A.H.N.E Llŷn