Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Rhesymau
- Nid oes tystiolaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno ar gyfer yr angen am y datblygiad na’i ddef-nydd
o danwydd ffosil a fyddai’n tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng
hinsawdd. I'r perwyl hyn, ystyrir fod y bwriad yn groes i amcanion
cyffredinol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017, ynghyd â
pholisiau PS7 ac ADN3 yn be-nodol sy’n hyrwyddo darpariaeth ynni adnewyddadwy
neu garbon isel, polisiau PS 5, PS6 ac PCYFF 5 ran lliniaru effeithiau
hinsawdd a rheoli carbon, a Polisi Cynllunio Cymru, Ar-graffiad 11, 2021,
paragraffau 5.7.2, 5.7.6 a 5.7.11.
- Nid oes cyfiawnhad
penodol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer y bwriad ar y safle
yma ac felly ni ellir cadarnhau fod y golled o dir cyflogaeth yn
dderbyniol ac mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau PS5, PS13,
CYF, CYF 3 na CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017
sy’n rheoli datblygiadau ar diroedd wedi eu dynodi ar gyfer defnydd
cyflogaeth.
- Mae’r bwriad yn disgyn
o fewn dosbarthiad datblygiad sy’n agored iawn i niwed, ac nid oes
tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn
cydymffurfio a strategaeth y Cyngor, ac felly nid yw’r bwriad yn
dderbyniol o ran llifogydd ac nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisi PS 6
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a maen prawf
(i) o baragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd.
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: