Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod:-
- Y safle yng nghefn gwlad agored ac nid
yw’r bwriad yn un am dŷ menter wledig ac felly ystyrir fod y bwriad
yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu ar y
Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor
Technegol 6: cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.
- Nid yw’r ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ
fforddiadwy, mae maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ
fforddiadwy fel y diffinnir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy
ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellir sicrhau y
byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r
dyfodol. Ni ystyrir felly y
byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y
bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 Cynllun Datblygu ar y Cyd
Gwynedd a Môn sydd ond yn caniatáu cynigion am gynlluniau 100% tai
fforddiadwy. Mae hefyd yn groes i
gynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: