Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.1 Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl
‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng
Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd.
1.2. Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar
gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn
yr adroddiad.
1.3. Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif
Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu
gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.
1.4. Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer
Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr
adroddiad.
1.5. Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid,
Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i
gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini
prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: