Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er
defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn
annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal
Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn
orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid. Yn sgil hyn nid yw’r
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at
ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/11/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: