Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Cymeradwyo’r
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol ac
awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Swyddog
Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda
Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol
Bangor yn rhoi sylw i’r materion sy’n weddill fel nodir yn Adran 7 o’r Adroddiad ac yn
sicrhau’r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.
2.
Nodi
bydd dau gam caffael pellach ar gyfer cyflawni’r prosiect a dirprwyo i’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo manylion caffael a dyfarnu
cyn rhyddhau cyllid ar gyfer y camau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru