Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter Môn Morlais Ltd yn mynd i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a nodir yn yr adroddiad.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Menter Môn Morlais Ltd er mwyn cyflawni’r prosiect.

3.     Nodi bod y model cyllido arfaethedig ar gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol 100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i ddod.

4.     Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd y prosiect ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac amserlenni.

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2025

Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2025 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru