Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau 

 

  1. Byddai'r safle cabanau a'r gwaith cysylltiedig, oherwydd eu nifer, lleoliad, dyluniad, gosodiad agwedd yn y dirwedd, cynnydd yn yr arwynebedd lleiniau caled, yn arwain at nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr ardal wledig ynghyd ac arwain tuag at ormodedd o safleoedd parhaol yn yr ardal leol. Mae'r bwriad felly yn groes i feini prawf 1.i a ii. o bolisi TWR 3 a pholisi PCYFF 3, o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau.

 

  1. Byddai graddfa'r bwriad  yn creu symudiadau gormodol ar hyd y ffordd sirol gyfochrog a chynnydd mewn gweithgareddau gan greu sŵn ac aflonyddwch er niwed i amwynder preswylwyr lleol. Felly, ystyrir bod y cynnig yn groes i bolisi PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol ar ffurf manylion am leoliad a maint y maes draenio ynghyd â chanlyniadau profion trylifiad mewn cyswllt â’r System Trin Carthffosiaeth bwriedig. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi ISA 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) sy’n sicrhau darpariaeth isadeiledd digonol.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol sy’n cynnwys arolwg geoffisegol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais, ac felly ni ellir dod i gasgliad ynglŷn â chydymffurfiaeth y bwriad gyda pholisi AT4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) sy’n diogelu safleoedd archeolegol nad ydynt wedi’u dynodi a’u gosodiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/09/2025

Dyddiad y penderfyniad: 29/09/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/09/2025 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: