Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Eitem 11 (a): RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD BECA
BROWN
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, derbyniwyd y cynnig gan Cynghorydd Beca
Brown yn cynnig fel a ganlyn:-
Hoffem groesawu cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ar
Dachwedd 4ydd, gan gofnodi ein diolch dwfn i’r cadeirydd Jan
Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i’r panel
ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein
Dewrder. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr
adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbwl haeddiannol i ddewrder plant –
plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o
droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben. Mae’n dyled iddynt
yn enfawr. Mae’n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt
am eu penderfynoldeb a'u gwytnwch rhyfeddol.
Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr
adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion
perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych
ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023.
Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau
annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfrach yr
hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP. Rydym yn gwbwl effro i’r ffaith fod
gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn I’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi I
adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni.
Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i’r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod ‘byth eto’ yn golygu ‘byth eto’.
Eitem 11(b):
RHYBUDD O GYNNIG Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:-
Cynnig bod y Cyngor:
1. Yn nodi: bod ffigyrau hunanladdiad yng Nghymru sydd wedi eu cofrestru
yn 2024 yn 15.7 mewn 100,000 person a’r ffigwr yma’n dangos cynnydd, gan mai
14.0 mewn 100,000 oedd y nifer yn 2023. Mae nifer o ffactorau yn gysylltiedig
efo hunanladdiad, gan gynnwys: tlodi, diweithdra, problemau iechyd meddwl a
chorfforol, galar, camdriniaeth, unigedd, problemau perthynas, camddefnyddio
alcohol a sylweddau ac ati.
Nodwn hefyd mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth pobl ifanc i fyny
at 35 oed yn ol yr elusen Papyrus,
oherwydd nad yw pobl ifanc yn marw o achosion eraill yn aml iawn.
Dynion canol oed rhwng 30-44 oed yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o ladd
eu hunain. Roedd 76% o’r marwolaethau gan hunanladdiad yn ddynion. Mae
perthynas rhwng tlodi a hunanladdiad, efo 15.8 mewn 100,000 o hunanladdiadau yn
digwydd mewn ardaloedd difreintiedig, ac 8.6 mewn 100,000 yn yr ardaloedd lliaf difreintiedig. Mae 126.7 mewn 100,000 yn ddiwaith.
Mae modd atal hunanladdiad, ac mae cefnogaeth ar gael.
2. Yn credu: Bod hawl gan bobl Cymru i fyw mewn cymunedau sy’n
rhydd o ofn a stigma sy’n cael eu cysylltu ef hunanladdiad a hunan niwed.
Credwn fod bod hawl gan bobl Cymru gael eu grymuso a’u cefnogi i gyrchu a
chynnig cymorth pa le bynnag mae ei angen (Llywodraeth Cymru, 2025).
Mae gennym oll rol, bob un ohonom, yn
unigolion a sefydliadau, i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan
hunanladdiad. Credwn fod rôl gan y Cyngor i gydweithio efo efo
rhanddeiliaid eraill, i weithredu i atal hunanladdiad, gan leihau stigma, a
chynnig cefnogaeth. Credwn fod rol gan y Cyngor i gymryd camau penodol i warchod ein pobl
ifanc, gan eu grymuso i edrych ar ol eu hunain ac
eraill.
Egwyddorion - Strategaeth Atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru
(Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio):
1. Hunan-niweidio a hunanladdiad yw busnes pawb, ac mae pawb yn gallu
gwneud gwahaniaeth gyda’r hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir.
2. Rhaid bod yn glir pwy sy’n arwain ac yn gyfrifol am bob cam
gweithredu yn y strategaeth.
3. Mae’r ffocws ar atal, gan nodi risgiau’n gynnar a chynnig cymorth
priodol i gadw pobl yn ddiogel.
4. Dylai gwasanaethau fod yn deg ac yn hygyrch i bawb, gan ddileu
rhwystrau sy’n effeithio ar wahanol grwpiau.
5. Mae angen canolbwyntio ar grwpiau sydd mewn perygl uwch, gan ddarparu
cymorth cymesur a phriodol.
6. Dylai unrhyw un allu cael cymorth ar unwaith (‘dim drws anghywir’)
heb orfod ailadrodd eu stori.
7. Rhaid gwrando ar leisiau pobl â phrofiad byw a chyd-gynllunio
gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
8. Dylai’r strategaeth gefnogi’r Gymraeg, gan sicrhau bod pobl yn cael
gofal yn eu hiaith heb orfod gofyn.
9. Rhaid i’r camau gweithredu fod ar sail tystiolaeth ac yn glir eu
canlyniadau.
10. Dylai’r gwaith fod yn ystyriol o drawma, gan ddarparu gofal
tosturiol ac empathetig.
11. Mae’n bwysig mynd i’r afael â stigma, gan hyrwyddo dealltwriaeth a
thosturi.
12. Dylid mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau, gan ddiogelu
hawliau pob unigolyn.
13. Rhaid i’r strategaeth gwmpasu pob oedran, gan sicrhau bod cymorth ar
gael i bawb o fabanod i bobl hŷn.
14. Dylid cydnabod y ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy’n dylanwadu
ar iechyd a lles.
15. Dylid ystyried rôl technoleg ddigidol, lle y gall wella canlyniadau
neu gynaliadwyedd.
16. Rhaid sicrhau bod cyllid ac adnoddau ar gael, gan brofi pa gamau
sy’n realistig o fewn yr adnoddau presennol.
3. galwaf ar fy nghyd Aelodau i gefnogi'r cynnig.
(a) Bod y Cyngor yma yn datgan cefnogaeth gadarn i egwyddorion
Strategaeth Atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi gwaith y Cabinet
i sefydlu strategaeth ar gyfer Cyngor Gwynedd.
(b) Dylai aelodau wneud popeth yn eu gallu i sicrhau fod y Cyngor yn
gweithredu polisïau sy’n cefnogi unigolion, yn atal hunanladdiad, gan rymuso
strwythurau’r Cyngor,
(c) Mae’n cefnogi cyfleoedd yn yr ysgolion i drafod
hunanladdiad fel agwedd ar drafodaeth iechyd meddwl, yng nghyd destun addysg
bersonol, rhyng-berthnasol a chymdeithasol, gan
arfogi ein disgyblion i edrych ar ôl eu hunain a phobl eraill mewn modd
sensitif, gan athrawon sy’n cael y gefnogaeth, goruchwyliaeth a’r hyfforddiant
briodol i ddarparu addysg o’r math.
Dyddiad cyhoeddi: 04/12/2025
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/12/2025 - Y Cyngor