Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Gofynnir i'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol argymell
i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y dylid dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol, y Swyddog
Monitro, y Prif Swyddog Cyllid ac arweinwyr trafnidiaeth awdurdodau lleol
perthnasol, i gymeradwyo a chyflwyno ceisiadau am newid rhanbarthol i
Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheolaeth y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn
ystod y flwyddyn.
Dylai'r Is-bwyllgor nodi mai Llywodraeth Cymru fydd yn
parhau i wneud penderfyniadau grant terfynol y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol.
Dyddiad cyhoeddi: 13/07/2026
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2026
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2026 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Dogfennau Cefnogol: