Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Mae’r Cyngor

  • yn pryderu am y nifer o blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd cyhoeddus;
  • yn credu bod hyn yn peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn destun yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill, megis eu trwyddedu a’u hyswirio a’r angen i fod â thrwydded yrru i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio yn gyfreithlon heblaw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr;
  • yn nodi bod e-sgwteri yn cael eu treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u caniateir ar ffyrdd o fewn rhai ardaloedd ond nid yw’r un o’r rhain o fewn Gwynedd;
  • yn credu nad yw llawer o rieni a phobl ifanc yn sylweddoli bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a chyflwyno adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r gyrrwr.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2026

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2026 - Y Cyngor