Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw ar ddiwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer CBC (Atodiad 1), gan gynnwys uchafswm o £39,874 i'w drosglwyddo o'r gronfa wrth gefn (yn ychwanegol at y £624,590 a gymeradwywyd yng nghyllideb 2026/27) i adael sefyllfa niwtral (gyda'r ffigwr terfynol i'w gadarnhau pan gyflwynir adroddiad alldro 2026/27).

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw a chyfalaf diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer y Cynllun Twf (Atodiad 2), gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 3).

 

  • Nodi a derbyn proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf (Atodiad 4).

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer y Parth Buddsoddi (Atodiad 5), gan gynnwys y defnydd o'r llog ar falansau Parth Buddsoddi i adael sefyllfa niwtral ar gyfer 2026/27.

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer yr PSRh (Atodiad 6).

 

  • Cymeradwyo'r trosglwyddiadau yng nghyllidebau y CBC, y Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi a nodir yn Atodiad 7.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2026

Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2026 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Dogfennau Cefnogol: