Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;
• Cychwyn y
datblygiad o fewn 5 mlynedd
• Rhybudd 14
diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith
• Gosod pridd yn unol â chanllawiau
adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau
• Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5
mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad
y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol,
• Cydymffurfio
gyda chynlluniau a manylion y cais,
• Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer
ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i
atal llwch rhag cael ei ollwng.
• Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00,
dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu
wyliau Banc,
• Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle
a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar
draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad,
• Oriau gweithredu’r offer didoli
gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y
Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,
• Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau
Uned Ddwr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn
sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai
effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro,
• Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i
asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015.
• Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u amgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu gael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect.
Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2020
Dyddiad y penderfyniad: 02/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: