Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Adroddwyd bod
gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio swyddogaeth i adolygu ac asesu
trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu
corfforaethol y Cyngor ac fel rhan o’r swyddogaeth honno bod disgwyliad i
ystyried adroddiadau cyrff adolygu allanol megis Archwilio Cymru, Estyn ac
Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn ogystal mae disgwyl i bwyllgorau sicrhau eu hunain
bod trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw
argymhellion a geir yn yr adroddiadau hynny.
Cyflwynwyd adroddiad ‘Cyfle wedi’i
golli’ – Mentrau Cymdeithasol ynghyd ag ymateb y rheolwyr oedd yn amlinellu’r
hyn mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud i ymateb i’r argymhellion o fewn yr
adroddiad.
Eglurwyd bod
y gwaith o ddatblygu strategaeth a gweledigaeth wedi dechrau drwy gynnal
cyfarfod wyneb yn wyneb ar y cyd gyda chynrychiolwyr o Grŵp Cyswllt
Trydydd Sector Gwynedd. Cynhaliwyd gweithdy lle rhoddwyd cyfle i’r mynychwyr
(Trydydd Sector, Swyddogion a Chynghorwyr) gyfrannu at ddatblygu a chyd-gynhyrchu
blaenoriaethau gweithredu. Y cam nesaf
fydd dadansoddi’r sylwadau a gasglwyd, cynnal cyfarfod arall ym mis Hydref i
ddatblygu’r weledigaeth yn llawn a rhannu diweddariad pellach i'r Pwyllgor
ymhen 6 mis.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â beth yw menter gymdeithasol, nodwyd bod y cyfarfod
diweddar wedi bod gyda sefydliadau trydydd sector sydd yn rhan o Grŵp
Cyswllt Trydydd Sector Gwynedd sy’n cynrychioli pobl o fewn cymdeithas -
enghreifftiau yng Ngwynedd fyddai Mantell Gwynedd, GISDA, Meter Fachwen. Mewn
sylw ategol, awgrymwyd rhestru enghreifftiau o fentrau cymdeithasol yn y
ddogfen ymateb y rheolwyr er mwyn deall y cyd-destun yn ehangach. Ategodd
Swyddog Archwilio Cymru mai anodd yw gosod diffiniad o'r term, ond mai corff
ydyw ar gyfer sicrhau gwerth cymdeithasol ac nid er mwyn gwneud elw. Cyfeiriwyd
at 1.24 o’r adroddiad lle nodi’r bod y gwefannau gorau gan awdurdodau lleol yn
cynnwys ‘diffiniad clir sy’n nodi beth yw Menter Cymdeithasol’
Mewn ymateb i
sylw bod yr adroddiad yn un cyffredinol ac nad oedd awgrym bod cyfle wedi ei
golli, nodwyd bod gwrthdaro rhwng gwaith lleol a gwaith cenedlaethol, ac er bod
yr adroddiad yn ymddangos yn generig, bod yr argymhellion yn arwain at
gyfleoedd yn lleol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod gwaith
mentrau cymdeithasol yn glodwiw iawn, fodd bynnag wrth i Awdurdodau Lleol, waredu
asedau a cholli rheolaeth, gall hyn arwain at fentrau yn datgymalu gwaith
Awdurdod Lleol
·
Bod
enghreifftiau da o fentrau cymdeithasol yn y Sir ac os maent yn cael eu rheoli
yn gywir, y budd cymdeithasol yn un cadarnhaol
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad
Nodyn: 11b - awgrym i gynnwys enwau / enghreifftiau o Fentrau Cymdeithasol Gwynedd yn yr ymateb er mwyn deall y cyd-destun yn ehangach
Dyddiad cyhoeddi: 07/09/2023
Dyddiad y penderfyniad: 07/09/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Cefnogol: