Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd
Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol
i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a
chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr
dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei
ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law.
2.
Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod
allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth
Buddsoddi.
3.
Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn
ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a
Chymru.
Dyddiad cyhoeddi: 06/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/09/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/09/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd
Dogfennau Cefnogol: