Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

¾    Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

¾     Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

¾     Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

¾     Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,

¾     Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb.

¾     Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2).

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. - tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.

¾     Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: