Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1)
Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn
ddarostyngedig i gadarnhad y Prif Grwner â’r
Arglwydd Ganghellor i bennu amodau ac i benodi Kate Sutherland, Crwner Cynorthwyol presennol
Ardal Gogledd Orllewin Cymru i weithredu fel Uwch Grwner Gweithredol hyd nes y bydd yr awdurdod wedi cyfarch y
cwestiwn o uno ardaloedd ac y bydd Uwch Grwner parhaol wedi ei benodi/phenodi.
2)
Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
gynnal adolygiad yn ystyried priodoldeb
uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill gan gynnwys
cychwyn trafodaethau gyda Chynghorau Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw
fudd-ddeiliaid perthnasol eraill, y Prif Grwner a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder,
gan bwysleisio pwysigrwydd cael Uwch Grwner sydd yn gallu cynnal gwasanaeth
drwy gyfrwng y Gymraeg a disgwyl adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau a’r ffordd
ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Y Cabinet