Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
(a) Cymeradwyo’r
Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod
y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo
i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
(b) Cymeradwyo’r
darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn
mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu
sydd wedi’u nodi yn “Cytundeb Llywodraethu
2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer
cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru.
(c) Yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor
Gwynedd yn cytuno i weithredu fel
yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r
llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid.
(ch) Cymeradwyo'r dull a
ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen
mewn egwyddor i hwyluso'r llif
arian negyddol
ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth
o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad
hwn a’r cyfraniadau
craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu
fel sydd wedi’i nodi yn
GA2 (ac ym mharagraffau 5.5
– 5.7 o’r adroddiad).
(d) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran
151, i gytuno ar fân newidiadau
i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen
i gwblhau’r cytundeb.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/12/2020 - Y Cyngor
Dogfennau Cefnogol: