Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwyno’r sylwadau a ganlyn mewn ymateb i’r
ymgynghoriad, a dirprwyo hawl i’r Swyddog
Monitro goladu a chyfleu yr ymateb ar ran y Cyngor:-
·
Bod y pwyllgor yn croesawu’r
ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod
ddefnyddiol o ran esbonio’r cod. Credir
hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd
dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.
·
Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o
dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad
hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.
·
Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys
esiamplau o sut mae’r prawf budd cyhoeddus wedi weithio’n ymarferol, h.y. pa
fathau o gwynion sydd wedi croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi
methu.
·
Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.
Dyddiad cyhoeddi: 22/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Cefnogol: