YMDDIHEURIADAU
I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnod:
Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. R. Medwyn Hughes, Mike
Stevens, Anest Gray Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru),
Alwen Watkin, Cathryn Davey, Miriam Amlyn a Heledd Jones (Undebau Athrawon)
(a)
Adrododd y Swyddog
Cefnogi Aelodau nad oedd cworwm yn y cyfarfod oherwydd absenoldeb aelodau o'r
sector addysg. Trafodwyd a ddylai CYSAG fwrw ymlaen heb gworwm, ac yn unol ag
arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr cytunwyd i fwrw ymlaen ond gan nodi na fyddai
gan y cyfarfod rym i wneud penderfyniadau, a hynny’n unol â Chyfansoddiad y
CYSAG.
(b) Awgrymwyd y dylid
anfon e-bost i holl Aelodau CYSAG yn esbonio yr hyn a ddigwyddodd o ran diffyg
cworwm i’r cyfarfod ac apelio ar Aelodau i’r dyfodol i gysylltu â’r Swyddog
Cefnogi Aelodau mewn da bryd os nad ydynt yn gallu bod yn bresennol.
YMDDIHEURIADAU
I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.