13 ADRODDIAD DIWEDDARU PDF 71 KB
Diweddariad ar Addysg Grefyddol a Maes Dysgu a
Phrofiad y Dyniaethau sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r
Cwricwlwm Newydd i Gymru
(Copi’n amgaeedig)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd ddiweddariad ar Addysg Grefyddol a
Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau sydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r
Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod
sylwadau NASUWT i’r cynigion gan nodi y dylai Addysg Grefyddol, Hanes,
Daeryddiaeth a Busnes dderbyn sylw hafal yn nhermau amser ac adnoddau megis
nifer o wersi, athrawon ag arbenigedd, a.y.b.
Rhaid sicrhau bod gofynion cymhwysterol Addysg Grefyddol yn derbyn
blaenoriaeth gan ddarparu ar gyfer egwyddorion Donaldson islawr yn yr ysgolion
uwchradd. Awgrymwyd yr egwyddorion i’w
cyrraedd fel a ganlyn:
·
Ymdrechu
i gael ysgolion i benodi athro /athrawes pwnc Addysg Grefyddol
·
Sicrhau
bod Addysg Grefyddol yn bwnc Cyfnod Allweddol 3 ac ddim yn atodiad mewn pynciau
eraill
·
Sicrhau
bod Addysg Grefyddol yn deryn yr un adnoddau ac amser â’r pynciau dyniaethau
eraill
·
Sicrhau
bod gofynion cymhwysterol (TGAU ac ati) yn derbyn blaenoriaeth ar ofynion
Donaldson
Argymhellwyd: Gofyn i’r
Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol anfon llythyr i Manon Jones, Is-Adran y Cwricwlwm, Asesu ac Addysgeg,
LLywodraeth Cymru, i gyfleu’r sylwadau uchod, ac i’w cymeradwyo yng nghyfarfod
nesaf CYSAG.
8. DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT GWE PDF 344 KB
Diweddariad ar Addysg Grefyddol a Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru
(Copi’n amgaeedig)
Dogfennau ychwanegol: