CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD
Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cydymdeimlwyd â’r
Cynghorydd Simon Glyn ar golli ei dad.
Cydymdeimlwyd
hefyd a theuluoedd dau aelod o staff, sef:-
·
Iwan Huws o’r Adran Ymgynghoriaeth a fu farw drwy ddamwain yn ddiweddar.
·
Daffni Eynon Williams o’r Adran Gwasanaeth Plant a
fu farw yn eithaf sydyn tua phythefnos yn ôl.
Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am
bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Safodd y Cyngor
fel arwydd o barch.
Llongyfarchwyd:-
·
Y Cynghorydd Ioan Thomas ar ddod yn daid i ferch
fach.
·
Sue Owen, siop flodau Lili Wen Porthmadog ar ennill
cystadleuaeth Welsh Weddings Award
Cymru am y siop flodau orau yng Ngogledd Cymru.
Diolchwyd i’r
aelodau am eu hyblygrwydd yn sgil gorfod newid trefniadau’r cyfarfod hwn o’r
Cyngor ar fyr rybudd a diolchwyd i staff y Cyngor oedd wedi mynd y filltir
ychwanegol i gefnogi cymunedau’r sir yn ystod y tywydd garw diweddar.
Diolchwyd i’r
aelodau am gytuno i gael tynnu eu lluniau i ddathlu’r ffaith bod heddiw yn
Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Hefyd,
anogwyd pawb i edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld lluniau o nifer o
ferched enwog o Wynedd ac i ymuno yn y dathliadau drwy enwebu mwy.
Cyfeiriwyd at y
fideo ‘Dathlu ein Cymreictod’ a ddangoswyd i’r aelodau cyn dechrau’r
cyfarfod. Eglurwyd mai’r Adran Addysg
oedd wedi comisiynu’r gwaith ‘Cewri Cymru’ i gefnogi’r Strategaeth Iaith
Uwchradd er mwyn hyrwyddo’r ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig.
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD
Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.