Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C17/1266/16/LL Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 294 KB

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

           

a)         Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un i osod tŵr telathrebu uchder ar dir amaethyddol garw i’r gorllewin o ffin ddatblygu Pentref Tregarth. Nodwyd y byddai'r tŵr ar ffurf 'monopole', wedi ei osod ar lawr o goncrid gyda 3 antenna a 2 ddysgl trawsyriant ar ei ben; 3 cabinet offer ger ei waelod, a ffens 1.2m o uchder o’i gwmpas i greu compownd. Y bwriad yw y bydd dau gwmni, megis Telefónica UK Cyf. (O2) a Vodafone Cyf. yn defnyddio’r cyfleuster i wella darpariaeth 2G a 3G a chynnig gwasanaeth 4G oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth leol bresennol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ceisio cwrdd gyda dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau gwell isadeiledd digidol mewn cymunedau gwledig.

 

     Atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor          Cynllunio ar 26/02/18 wedi ei ohirio er mwyn ymweld â’r safle. Yn y cyfarfod hwnnw gwnaed cais gan yr Aelodau i’r ymgeisydd ymateb i rai o’r materion a       godwyd yn ystod y drafodaeth a chyfeiriwyd at yr ymateb hynny yn adran 1.7 o’r      adroddiad. Gohiriwyd y cais am yr ail dro ym Mhwyllgor 16/04/18 er           mwynail      drefnu ymweliad safle (yr ymweliad cyntaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw).    Amlygwyd bod gohebiaeth gan wrthwynebydd yn cwestiynu dilysrwydd y broses           o ddelio gyda’r cais wedi ei dderbyn a chyfeiriwyd at yr ymateb yn adran 1.8    o’r adroddiad.

 

Nodwyd, yng nghyd-destun asesu’r cais mai mwynderau gweledol a materion bioamrywiaeth oedd y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol. Derbyniwyd y byddai’n anorfod i’r strwythur arfaethedig fod yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored i sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti yn llawn. Nodwyd gyda’r safle arfaethedig yn un coediog, byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus ac na fyddai yn goruchafu na gormesu unrhyw eiddo preifat. Ategwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel eisoes yn bodoli yn yr ardal sydd yn cynnwys coed sylweddol, polion llinellau ffôn a rhes o beilonau trydan. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gofyn am adroddiadau ychwanegol ynghylch yr effaith ar ecoleg a choed gan fod y datblygiad wedi ei leoli ar safle o dir amaethyddol sydd heb ei wella  a bod coed brodorol aeddfed gerllaw.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;

·         Nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau - yn groes i TAN19

·         Nad oedd sylw digonol wedi ei  roi i ardaloedd o dirwedd arbennig

·         Nad oedd asesiad gwrthrychol wedi ei gwblhau - y cynnig yn dibynnu ar ddehongliad gwrthrychol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8


Cyfarfod: 16/04/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/1266/16/LL - Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 278 KB

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol. 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.

 

(a)     Adroddodd y Rheolwr Cynllunio yn seiliedig ar bryderon sydd wedi eu codi yn lleol  am ddryswch yr ymweliad safle a’r tywydd garw ar ddiwrnod yr ymweliad, awgrymwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn cynnal ail-ymweliad safle, er galluogi’r Aelod Lleol i fod yn rhan ohono.

 

(a)  Gwnaed y sylwadau canlynol gan yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi bod ar y safle cywir sef ar dir fferm a sut felly ellir trafod y cais

·         Dylai’r Pwyllgor Cynllunio gael eu harwain gan swyddogion ar hyd Llwybr rhif 12 tuag at safle’r ffynnon sydd ddim yn dir i Bryn Cul

·         Bod y safle lle bwriedir gosod y polyn yn llawer uwch na lle roedd yr aelodau yn sefyll yn ystod yr ymweliad safle, ac o’r herwydd yn gamarweiniol i’r lygaid oherwydd bod y coed a’r mieri yn derfyn rhwng y ddau safle

 

(b)              Cynigwyd ac eilwyd i ail-ymweld â’r safle.

 

PENDERFYNWYD gohirio cymryd penderfyniad ar y cais a gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasnaeth Cynllunio drefnu ail-ymweliad â’r safle.

 

 

 

 


Cyfarfod: 26/02/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif: C17/1266/16/LL - Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 271 KB

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol. 

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gefnen o dir uchel, coediog, uwchlaw cefnffordd yr A55. ‘Roedd y cynllun hwn yn ddiwygiad o gynllun a gyflwynwyd yn flaenorol ar safle oddeutu 200m i’r de a dynnwyd yn ei ôl oherwydd pryderon ynghylch yr effaith posibl ar heneb restredig gyfagos.

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sail pryder ynghylch yr effeithiau posibl ar fywyd gwyllt, effaith weledol niweidiol, niwed i’r dirwedd hanesyddol ddynodedig, effaith niweidiol ar henebion cyfagos, niwed posibl i goed gerllaw, niweidiol i fwynderau defnyddwyr llwybr cyhoeddus prysur gerllaw ac fe allai’r datblygiad fod yn niweidiol i’r ffynnon hanesyddol gerllaw gan lygru’r dŵr a lifai ohono.

 

Nodwyd bod Polisi PS 3 y CDLl yn gefnogol i’r ddarpariaeth o gyfleusterau newydd i estyn neu wella cysylltiadau technolegau cyfathrebu ym mhob rhan o ardal y Cynllun yn amodol ar fesurau amddiffyn priodol.

 

Adroddwyd y cyflwynwyd datganiad o gydymffurfiaeth gyda gofynion yr ICNIRP (International Commission on Non-Ionizing Radiation Protection) fel rhan o’r cais, a oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio gyda chanllawiau’r ‘ICNIRP,’ sef y canllaw rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer y math yma o ddatblygiad.

 

Gyda’r math yma o ddatblygiad, roedd yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Er hynny fe gredir, yn yr achos yma, byddai lleoliad coediog y safle yn golygu byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus. Ar y cyfan, credir byddai’r tŵr yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

Nodwyd bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn rhestru’r safleoedd eraill a ystyriwyd cyn penderfynu ar y safle yma. Gwelir fod y rhain wedi cael eu diystyru am amrywiol resymau. Cydnabyddir felly fod ymgais wedi ei wneud i ganfod safleoedd eraill ond mai’r safle hwn oedd wedi ei adnabod fel yr un mwyaf addas ar gyfer y bwriad yn sgil ystyriaeth o faterion ymarferol, technegol a mwynderol.

 

Ni chredir bod unrhyw effeithiau niweidiol arwyddocaol i fwynderau trigolion lleol yn debygol o ddeillio o’r datblygiad. Nodwyd bod y safle yn addas o ran ei leoliad ac yn dderbyniol o safbwynt ei effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn siarad ar ran trigolion lleol a oedd yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Bod ail-leoli safle’r mast telathrebu yn newid materol yn hytrach na newid i’r bwriad;

·         Nid oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5