YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth:-
(a) Llythyr
gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â’r sefyllfa yng Nghatalwnia.
(b) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Owain Williams
i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas ag addysgu hanes Cymru.
(c) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago
i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol.
PENDERFYNWYD nodi
cynnwys y llythyrau.
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL