Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Cabinet (eitem 13)

13 ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Iechyd Diogelwch a Llesiant.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Iechyd Diogelwch a Llesiant.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai hwn yw y tro cyntaf i adroddiad o’i fath ddod i’r Cabinet. Nodwyd mai cyfle i roi darlun i’r Cabinet o’r sefyllfa gyfredol o ran rheolaeth iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor. Nodwyd fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i rymuso rheolwyr  i fod yn arwain ar reoli’r risgiau o fewn y Gwasanaeth. O ganlyniad i hyn mae’r rôl fwy clir i’r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesian fel un ymgynghorol.

 

Ychwanegwyd fod y Cyngor yn dal y wobr Aur o ran safon iechyd corfforaethol, yn dilyn ail asesiad llawn gan swyddogion o’r Cynulliad. Mynegwyd fod ystadegau straen a’r cyfeiriadau i wasanaeth cwnsela wedi codi, ond credir fod hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y gwaith o hybu iechyd meddwl yn y gweithle.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod nifer y damweiniau wedi codi yn gyson dros y blynyddoedd ond esboniwyd mai ymwybyddiaeth o’r angen i adrodd oedd y rheswm. Ychwanegwyd fod y nifer y methiannau agos wedi codi yn ogystal ac mae hyn oherwydd staff yn fwy parod i adael i’r tîm wybod.

-        Nodwyd fod yr adran wedi cael braw gyda ffigwr nifer cyfeiriadau MEDRA am y chwarter diwethaf, ond mae llawer o waith wedi cael ei wneud yn codi ymwybyddiaeth. Yn ychwanegol nodwyd ei fod yn adlewyrchu newid diwylliant ac mae staff yn fwy parod i nodi straen ar ffurflen salwch yn hytrach na thicio ‘salwch arall’.

 

Awdur: Geraint Owen