5 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLES PDF 330 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. W Gareth Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Morwena Edwards
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan
fod perfformiad yr adran yn gadarnhaol. Ychwanegwyd fod her yr adran yn un
uchelgeisiol a phwysleisiwyd nad oedd modd i’r adran wireddu eu heriau heb
gefnogaeth eu partneriaid. Pwysleisiwyd mai beth sydd yn bwysig i’r unigolyn
sydd yn gyrru’r gwasanaeth a bellach mae’n brif fesurydd yr adran. Pwysleisiwyd
fod hwn yn fesurydd newydd ond nad yw’n hawdd cymharu perfformiad gyda’r
blynyddoedd a fu.
Tynnwyd sylw at Wydnwch Cymunedol gan nodi
fod pum tîm yn gweithio yn drawsadrannol ac yn draws-sefydliad sydd yn ei
gwneud yn haws i bobl barhau i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau. Nodwyd mai'r
prif waith yw trosglwyddo pobl i’r gymuned yn dilyn cyfnod mewn ysbytai.
Ychwanegwyd mai prif broblem i’r maes yw cael pecynnau gofal oherwydd diffyg
capasiti mewn cartrefi a recriwtio staff.
Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud yn edrych
ar y gweithlu a recriwtio o fewn y maes Gofal. Ychwanegwyd fod darn o waith yn
cael ei gomisiynu er mwyn gwella dealltwriaeth yr adran am broblemau recriwtio.
Ategwyd fod prosiect gofal cartref wedi bod yn weithredol ym Methesda sydd wedi
bod yn gweithio mewn ffordd wahanol.
Tynnwyd sylw at ganlyniadau’r Holiadur
Cenedlaethol sydd yn dangos fod perfformiad Gwynedd yn cymharu yn dda yn erbyn
perfformiad Cymru. Pwysleisiwyd fod yr holiadur wedi tynnu sylw at yr angen i
gefnogi gofalwyr, ac ychwanegwyd fod Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol yn cael
ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Trafodwyd recriwtio gan nodi ein bod yn
trafod y maes yma ers Ionawr ac nad ydym eto i weld wedi medru dod i waelod y
mater fel ein bod yn gallu rhoi camau gweithredu ar waith a bod angen ystyried
a yw’r mater yma yn derbyn blaenoriaeth digonol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei
wneud ar y papur a gobeithir y bydd adroddiad yn fuan.
- Nodwyd fod y trefniadau ar gyfer mesur a yw
cynlluniau arbedion yn llwyddo neu beidio yn ddibynnol ar yr adolygiad cyllideb
yn hytrach na dadansoddiad o werth ariannol y camau unigol sy’n cael eu cymryd
ac fe heriwyd a oedd angen trefniadau mwy miniog. Nodwyd y byddai hyn yn derbyn sylw.
- Tynnwyd sylw at y tablau gan nodi fod un yn
pwysleisio ‘targedau’. Nodwyd nad yw hyn yn cydfynd ag egwyddorion Ffordd
Gwynedd gan na ddylem fod yn anelu am dargedau meintiol oni bai fod yna ystyr
gwirioneddol allweddol iddynt.
-
Trafodwyd
Cartref Preswyl Penisarwaun yn cau ar fyr rybudd, holwyd faint o sylw mae’r
adran yn ei roi i Gartrefi Preswyl Preifat. Nodwyd mai Arolygaeth Gofal Cymru a
fyddai’n cadw golwg ar faterion ariannol ac nid oes gofyn iddynt rannu'r wybodaeth
gyda’r Cyngor. Ond ychwanegwyd fod ymweliad wedi ei gynnal wythnos cyn i’r
Cartref gau ac nad oedd unrhyw broblemau wedi ei amlygu.
Awdur: Morwena Edwards
5. ADRODDIAD PERFFORMIAD ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 330 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts
Dogfennau ychwanegol: