6 Cais Rhif C18/0715/39/LL - 68, Cae Du, Abersoch, Pwllheli PDF 96 KB
Estyniad deulawr
gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r
modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r
blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r
eiddo.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 er
mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y
cyfarfod.
Tynnodd sylw bod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau pellach mewn
ymateb i bryderon y gwrthwynebwyr ynglŷn â dyluniad, gor-edrych
a pharcio.
Nododd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn mynegi pryder am raddfa’r estyniad
ond ni ystyrir fod yr estyniad yn afresymol o ran maint a graddfa nac ychwaith
yn or-ddatblygiad o’r safle oherwydd bod ardal mwynderol
rhesymol yn parhau o amgylch y tŷ. O ystyried bod dyluniad y tŷ
presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn
cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyrir y byddai’r
ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd
na thirlun yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Er yn cydnabod pryder yr
aelod lleol a’r gwrthwynebwyr, ni ystyrir bod sail i wrthod y cais yn nhermau
dyluniad a mwynderau gweledol.
Ymhelaethodd y derbyniwyd gwrthwynebiadau gan ddau o’r cymdogion o ran gor-edrych, preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ni ystyriwyd
y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa yn arwyddocaol, oherwydd ongl
gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn
uniongyrchol.
Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol,
cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau
perthnasol.
(b)
Gwrthwynebwyd y cais
gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nodwyd y
prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei ddiolchiadau am yr ymweliad
safle;
·
Bod llawer o dai haf yn yr
ystâd gydag addasiadau i dai i greu elw ar draul y diwylliant Cymreig a’r
iaith;
·
Pryderon parcio ar yr ystâd
oherwydd nifer ymwelwyr i un tŷ;
·
Y cynhelir partïon ar y
ferandas gyda bwyd a diod wedi ei brynu ymlaen llaw. Nid oedd hyn o fudd i’r
economi leol;
·
Nid oedd cyfeiriad at
breifatrwydd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Byddai’r bwriad yn effeithio
ar breifatrwydd cymdogion.
·
Cyfeirio at baragraff A29 o
Bolisi PPS7 o fewn adendwm cenedlaethol o ran pellter rhwng adeiladau er mwyn
lleihau gor-edrych a galluogi goleuni naturiol i’r
adeiladau. O dan baragraff A30 bod gor-edrych yn
golygu o ystafell i ardd cymydog sef yr ardal 3-4 medr agosaf i’r tŷ;
·
Nid oedd y dyluniad yn
cyd-fynd efo’r gofynion.
(c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio ni fyddai’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely dim ond newid y fformat ac o ganlyniad byddai ffenestr ystafell wely bresennol yn newid i fod yn ffenestr ystafell folchi. Nododd y byddai effaith yr estyniad, o ystyried yr effaith presennol ar drigolion cyfagos, yn finimal. Tynnodd sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) yn cyfarch materion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
5 Rhif Cais C18/0715/39/LL - 68, Cae Du Estate, Abersoch, Pwllheli PDF 95 KB
Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol
i'r eiddo
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais
ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ,
gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol.
Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll ar lethr
mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn
gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du.
Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i
weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai
integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i
sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr
gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan
sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr
Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill
y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg
iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr
ychwanegiad.
Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei
leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn
wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun
adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r
ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd
na thirlun yr AHNE.
Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych,
colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr
eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn
uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri
ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o
beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn
bresennol.
Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen
safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r
adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r
balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn
edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ
i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a
chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu
eu heiddo.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd
dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio
gyda gofynion y polisïau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5