skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, High Street, Deiniolen, Caernarfon pdf eicon PDF 121 KB

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

          Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

          Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl oherwydd diffyg penderfyniad

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull, sydd wedi ei leoli ar Stryd Fawr, Deiniolen, yn llety gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai hyn gryn newid i drefniant mewnol yr adeilad, ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad allanol.

 

Eglurwyd bod y dafarn wedi bod ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am dros flwyddyn. Cyfeiriwyd at bolisi TWR 2 sydd yn cefnogi datblygiadau llety gwyliau parhaol drwy drosi adeiladau presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel o ran dyluniad, edrychiad a gosodiad. Ystyriwyd bod y cais o ansawdd uchel ac yn cwrdd â gofynion y polisi.

 

Amlygwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi nodi unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad er y derbyniwyd gwrthwynebiad yn honni diffyg llefydd parcio’n lleol. Wedi ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn debygol o greu    trafferthion sefyllfa waeth nag un fel tŷ tafarn neu fflatiau.

 

Eglurwyd, mewn ceisiadau o’r fath bod rhaid ystyried cyn defnydd y safle, a’r cynnydd tebygol o ganlyniad i’r bwriad newydd. Yma, y sefyllfa flaenorol oedd tŷ tafarn o faint sylweddol a chartref pedair ystafell wely uwchben, wedi ei leoli’n ganolog o fewn pentref. Mae’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd wely ond yn tynnu’r elfen ‘tŷ tafarn’, a thybiwyd fod digon o gyfleoedd i ymwelwyr barcio ar y strydoedd a meysydd parcio lleol os yn ymweld â’r safle mewn cerbyd. Awgrymwyd y byddai llai o ‘fynd a dod’ gyda llety gwyliau ac y byddai llai o aflonyddwch.

 

Nodwyd bod cynllun busnes wedi ei gyflwyno gyda’r cais a bod sylwadau wedi ei derbyn gan Uned Twristiaeth y Cyngor yn cadarnhau bod galw am unedau llety hunanarlwyo safonol ar gyfer grwpiau yn y Sir. Ategwyd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf 1.75% o lety gwyliau hunan wasanaeth sydd yn y ward sydd yn cadarnhau nad oes gormodedd o lety gwyliau o’r fath yma yn yr ardal

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·           Nad oedd digon o lefydd parcio yn yr ardal gronnus yma

·           Llawer o drigolion yn cwyno eisoes am ddiffyg mannau parcio

·           Byddai 20 o geir ychwanegol yn cynyddu’r pryderon hyn

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd diffyg llefydd parcio. Nodwyd nad oedd yn    rhesymol cymharu defnydd tafarn gyda defnydd llety gwyliau

 

(ch)   Nododd y Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod rhaid cadw persbectif o’r nifer ceir tebygol. Amlygodd bod y sefyllfa wedi ei mesur fel un stafell wely yn golygu un cerbyd. Ar y gwaethaf, ystyrir 8 cerbyd ychwanegol (ac nid 20). Byddai hyn yn dderbyniol i’r ardal ac ni fyddai yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, Stryd Fawr, Deiniolen pdf eicon PDF 116 KB

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elfed W. Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2018 er mwyn i’r swyddogion ymgynghori ar y cynllun busnes a’i ystyried fel rhan o’r asesiad.

 

         Eglurodd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull yn Neiniolen yn llety gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai’r datblygiad cryn newid i drefniant mewnol yr adeilad ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad allanol.

 

         Nododd bod y dafarn ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am dros flwyddyn (rhwng Gorffennaf 2016 a Hydref 2017) gan gael ei hysbysebu ar bris isel (£75,000). Petai’r busnes tafarn yn hyfyw fe gredir y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai rheolwyr newydd ar gyfer y busnes wedi dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd rhaid cofio bod tafarn arall, sef “Y Wellington”, o fewn 20m i’r adeilad hwn.

 

         Amlygodd bod Polisi TWR 2 o’r CDLl yn gefnogol i ddatblygiadau llety gwyliau parhaol trwy drosi adeiladau presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel. Nododd bod cyfiawnhad i alw’r datblygiad yn un o ansawdd uchel.

 

         Nododd y credir fod y potensial i greu niwed mwynderol megis sŵn ac ymyrraeth yn fwy tebygol o’r defnydd awdurdodedig, megis tafarn, nag y byddai o ddefnydd llety gwyliau hunangynhaliol fel y cynhigir yma. 

 

         Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad. Nododd wrth ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni chredir y byddai’r datblygiad hwn yn debygol o achosi trafferthion sylweddol gwaeth na’r sefyllfa awdurdodedig. Nododd bod yr Uned Trafnidiaeth yn datgan bod parcio cyhoeddus ar gael mewn meysydd parcio ac ar y stryd o fewn pellter rhesymol i’r cyfleuster.

 

         Cyfeiriodd at y cynllun busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a oedd yn egluro mai’r bwriad oedd trosi’r dafarn yn llety ansawdd uchel i hyd at 20 o westeion ac yn datgan nad oedd cyfleusterau tebyg ar gyfer grwpiau mawr o’r ansawdd a fwriedir ar gael yn lleol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer ynghyd ag Uned Trethi’r Cyngor.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bwriedir darparu llety ansawdd uchel ar gyfer grwpiau am bris cystadleuol;

·         Bod y bwriad yn cyd-fynd a’r polisïau yn y CDLl;

·         Bod newid defnydd i lety gwyliau ar yr ail lawr wedi ei ganiatáu eisoes;

·         Bod yr adeilad wedi ei hysbysebu ar werth am gyfnod o 12 mis am bris o £75,000, pe byddai’r defnydd fel tafarn yn hyfyw mi fyddai wedi ei brynu a’i ail-agor;

·         Bod datblygiadau o’r fath mewn lleoliadau eraill yn llwyddiannus ac yn cyfrannu at yr economi leol;

·         Dim ond 3 adeilad o fewn 20 milltir i’r safle oedd efo darpariaeth o’r un safon a maint;

·         Bod yr Uned  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 05/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, Stryd Fawr, Deiniolen pdf eicon PDF 112 KB

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elfed W. Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

(a)     Nododd y Rheolwr Cynllunio bod swyddogion wedi sylwi ar yr angen i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun busnes ac nad oedd unrhyw fai ar yr ymgeisydd. Nododd y derbyniwyd cynllun busnes ar yr 2il o Dachwedd, felly gofynnir i ohirio’r cais er mwyn i’r swyddogion ymgynghori ar y cynllun busnes a’i ystyried fel rhan o’r asesiad.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.