7 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 109 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan yn hapus a pherfformiad yr adran
Amgylchedd. Ategodd fod yr amser mae hi yn cymryd i benderfynu a’r cais cynllunio
wedi bod yn ansefydlog ar ddechrau eleni, ychwanegodd fod effaith y Cynllun
Dirprwyo newydd yn dechrau ymddangos yw hyn ac y bydd yn sefydlogi gan ei fod
yn cael ei fonitro drwy gofnodi ar wahân gan y bydd y niferoedd y ceisiadau
fydd angen mynd i bwyllgor yn lleihau.
Tynnwyd sylw ar
Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd gan nodi fod y gwasanaeth yn parhau i fod y tu ôl
o ran arolygiadau Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd. Ychwanegwyd fod swyddogion
ychwanegol bellach wedi eu penodi, ac mae’r gwasanaeth wedi mabwysiadau
trefniadau mwy effeithlon drwy gynnal archwiliadau hylendid a safonau bwyd yn
yr un ymweliad ble mae hyn yn bosib.
Mynegwyd fod
perfformiad cyfartaledd y dyddiadau a gymerir i benderfynu cais trwydded tacsi
wedi gwella o’i gymharu â’r adroddiad diwethaf. Nodwyd fod cyfartaledd prosesu
trwyddedau gyrwyr wedi gostwng yn ogystal. Ychwanegwyd wrth herio perfformiad y
gwasanaeth nodwyd fod trwydded ar gyfer cwmnïau a cherbydau tacsis yn cael eu
prosesu yn gyflym iawn ac o fewn 2 ddiwrnod ar gyfartaledd, ond fod nifer
cynnydd yn y nifer o drwyddedau ar gyfer gyrwyr. Nodwyd fod y drefn o wneud
gwiriad DBS yn gallu bod yn araf a bod y drefn o drefnu gwrandawiadau o flaen
Is-bwyllgor Trwyddedu yn gallu ychwanegu oediad i’r broses.
Nodwyd fod Canran
adeiladau gyda system diogelwch cyflawn wedi dirywio yn sylweddol o 91% i 73%.
Esboniwyd fod aelod staff wedi bod yn absennol oherwydd salwch, ac nad oedd
aelod arall staff gyda’r arbenigedd i wneud y gwaith. Mynegwyd fod camau yn ei
le bellach i sicrhau fod y Gwasanaeth yn gallu parhau i wneud y gwaith yn
absenoldeb aelod staff. Nodwyd fod cynlluniau arbedion wedi ei gwireddu ac
amlinellwyd blaenoriaethau Cynllun y Cyngor gan nodi fod y rhain wedi ei
datblygu yn dilyn trafodaethau a chynghorwyr am eu wardiau. Mynegwyd fod camau
yn cael eu cymryd er mwyn cwblhau’r blaenoriaethau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod pryder am ddiffyg parcio yn ardal y Bala sydd yn un o flaenoriaethau
Cynllun y Cyngor bellach wedi ei ddatrys.
-
Trafodwyd
blaenoriaeth Cynllun y Cyngor am ddiogelwch tu allan i’r ysgolion yng
Nghaernarfon gan nodi fod angen edrych ar y safle i gyd gan fod y Ganolfan
Hamdden a'r Ganolfan Dennis ar yr un safle.
-
Trafodwyd
mesurydd perfformiad yr adran am gwynion trafnidiaeth gan nodi fod amryw wedi
canmol y bysus yn dilyn newid cwmni. Nodwyd fod y mesurydd yma yn edrych ar
gwynion gan nodi sut mae’r adran wedi ymateb i’r cwynion.
Awdur: Dilwyn Williams