7 ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PDF 126 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1)
Derbyn yr
Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i
Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.
2)
Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad
Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
3)
Rhoi’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet
Amgylchedd i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
1)
Derbyn yr
Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i
Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.
2)
Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad
Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
3) Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet Amgylchedd i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn
deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ma dyma oedd yr adroddiad monitro cyntaf ar gyfer y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd, gan adrodd ar y cyfnod rhwng Awst 2017 a diwedd Mawrth
2019. ‘Roedd yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
a’r Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn ogystal a’i gyflwyno mewn
gweithdai i Aelodau. Nid oedd eto wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini na
Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Mon.
Nodwyd bod yr
adroddiad yn rhan o greu sail tystiolaeth er mwyn adolygu’r Cynllun maes o law,
gan adrodd ar 69 dangosydd perfformiad tra’n gosod gwaelodlin ar eu cyfer.
‘Roedd yn ofynnol i adolygu’r Cynllun pob 4 mlynedd, ond cyn adolygu’r Cynllun
byddai rhaid cyhoeddi o leiaf 3 adroddiad monitro. Ychwanegwyd fod polisi tai
marchnad leol y Cynllun yn arloesol fel yr unig un o’i fath yng Nghymru.
Mewn perthynas a
sefyllfa Wylfa nodwyd mai pwyllo a monitro fyddai orau am y tro nes i’r
sefyllfa sefydlogi. Pwysleisiwyd hefyd fod y polisïau oedd yn y Cynllun yn rhai
cadarn a bod rhaid i ddatblygwyr brofi’r angen am ddatblygiadau fel rhan o gais
cynllunio.
Awdur: Rebeca Jones