CYTUNDEB GYDA SNOWDONIA AEROSPACE LLP I WIREDDU CYNLLUNIAU ISADEILEDD CANOLFAN AWYROFOD ERYRI LLANBEDR
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1) Ar sail yr
adroddiad, yr asesiad risg a’r cyngor arbenigol sydd wedi ei dderbyn, awdurdodi
gwireddu cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.
2) Awdurdodi’r
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r
Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fydd yn
gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys cyfyngiadau
ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig.
3) Bod y
cytundeb yn sicrhau y defnydd sifil o’r datblygiad drwy gynnwys
cymal fydd yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau
sydd yn cael eu gwella drwy’r prosiect
arian Ewropeaidd
Cofnod:
Cyflwnwyd gan Cyng.
Gareth Thomas.
PENDERFYNIAD
1) Ar sail yr adroddiad, yr asesiad risg
a’r cyngor arbenigol oedd wedi ei dderbyn, awdurdodi gwireddu cynllun
Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.
2) Awdurdodi’r Pennaeth Economi a
Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai
yn gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys
cyfyngiadau ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig.
3) Bod y
cytundeb yn sicrhau y defnydd sifil o’r datblygiad drwy gynnwys
cymal fyddai yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau
fyddai’n cael eu gwella drwy’r prosiect arian Ewropeaidd
TRAFODAETH
Nodwyd bod pecyn ariannu cyflawn bellach yn ei le ar gyfer cynllun
Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, oedd yn gynnwys £7.5M o arian Ewrop.
Pwysleisiwyd mai ar gyfer datblygu adeiladau ar gyfer y Ganolfan oedd y pecyn
ariannu.
Cyngor Gwynedd oedd y corff atebol ar gyfer yr arian Ewrop ond
lesddeiliaid / gweithredwyr Canolfan Awyrofod Eryri - Snowdonia Aerospace LLP –
oedd yn gyfrifol am y gwaith oedd i’w gyflawni ar safle maes awyr Llanbedr.
Cyn belled ag y bo modd, roedd angen sicrhau buddiannau’r Cyngor drwy
sefydlu cytundeb cyfreithiol gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai’n adlewyrchu
ac yn ymateb i’r risgiau i’r Cyngor yn deillio o wireddu’r cynllun gan gynnwys
cyfyngu’r defnydd o’r ganolfan i ddefnydd sifil yn unig.
Awdur: Sioned Williams