9 RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 104 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2019 o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85
miliwn, sef :
Defnydd o £8.304 miliwn o
amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19
Cynnydd yn y defnydd o
£5.936 miliwn o
fenthyca
£3.411 miliwn yn
y grantiau a chyfraniadau
£82
mil o dderbyniadau cyfalaf
£154
mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill
Lleihad o £37 mil o
gyfraniadau refeniw
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r rhaglen gyfalaf, a
chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85 miliwn, sef :
Defnydd o £8.304 miliwn o
amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19
Cynnydd yn y defnydd o
£5.936 miliwn o fenthyca
£3.411 miliwn yn y grantiau a chyfraniadau
£82 mil o dderbyniadau cyfalaf
£154 mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill
Lleihad o £37 mil o gyfraniadau refeniw
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31
Awst 2019) ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor fel rhan o drefn adolygu cyllideb
2019/20.
‘Roedd rhaid sicrhau trefniadau ariannu priodol ar gyfer cynlluniau’r
Cyngor i wario
ar gyfalaf, ac ‘roedd rhaid i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf a’r
ffynonellau ariannu. ‘Roedd y Cyngor mewn sefyllfa i fedru buddsoddi
£39.7miliwn ar gyfer
cyfalaf yn 2019/20, gydag £17.9miliwn ohono yn deillio o grantiau
Er mai mater o drefn oedd ymgorffori ariannu trwy grant, ‘roedd angen
hefyd delio gyda sefyllfaoedd lle bu newid rhwng blynyddoedd mewn proffil
gwario a newid
mewn gwerth cyfraniadau a derbyniadau cyfalaf.
Awdur: Ffion Madog Evans