6 GORCHYMUN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR PDF 103 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1) Cymeradwyo
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor
am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd
i’r adroddiad.
2) Diddymu
Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd
Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r
GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor;
3) Awdurdodi
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn
Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan y
Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
1) Cymeradwyo
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor
am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd
i’r adroddiad.
2) Diddymu Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor;
3) Awdurdodi Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd gan nodi
fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet ar 16eg Gorffennaf 2019 i gymeradwyo
ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymun Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn
ardal benodol o Fangor. Bu ymgynghori trylwyr gydag Aelodau Lleol a’r Heddlu,
yn ogystal a’r ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniwyd ymateb da i’r ymgynghoriad ac
‘roedd canlyniadau yr ymgynghoriad yn nodi bod nifer o drigolion Bangor yn
bryderus am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas. Yn dilyn yr ymgynghoriad
ac ar sail tystiolaeth yr Heddlu penderfynwyd ehangu ardal y gorchymun. Y camau
nesaf oedd i godi arwyddion i hysbysu’r cyhoedd, a byddai’r heddlu hefyd yn
hyrwyddo’r gorchymyn. Derbyniwyd sicrhad hefyd na fyddai’r Gorchymun yn cael ei
ddefnyddio er mwyn targedu pobl ddigartref ym Mangor.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾ Nodwyd ei fod yn amlwg fod gwaith trylwyr wedi ei wneud er mwyn paratoi’r Gorchymun.
¾ ‘Roedd grwpiau oedd yn gweithio i hyrwyddo’r Ddinas yn gefnogol iawn o’r gwaith ac yn gweld ei angen fel rhan o jig-so datblygiad ffyniannus Bangor.
Awdur: Catherine Roberts