6 YSGOL LLANAELHAEARN PDF 1 MB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd
i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd,
Y Ffor, ar y 1af Medi 2020.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan y
Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNIAD
Cytunwyd
i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol
Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffor, ar y 1af Medi 2020.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi eu bod yn cynnig i gychwyn cyfnod ymgynghorol statudol ar y
cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Ategwyd mai’r rheswm dros y
penderfyniad i gychwyn y cyfnod statudol yw bod nifer y disgyblion wedi lleihau
dros y blynyddoedd ac mai dim ond 8 disgybl sydd bellach ar y gofrestr.
Mynegwyd fod gan y
Cyngor ddyletswydd i sicrhau addysg a phrofiadau o safon uchel i bob disgybl, a
gyda chyn lleied o blant nad oedd cyfleoedd teg iddynt o ran profiadau.
Pwysleisiwyd mai cais i ystyried cyfnod statudol o ymgynghoriad yw hwn ac nid
penderfyniad i gau’r ysgol. Ategwyd fod y trafodaethau sydd wedi cael ei gynnal
yn lleol wedi bod yn urddasol a diolchwyd i’r aelod lleol, y corff llywodraethol
a’r budd-ddeiliad am drafod yr opsiynau posib.
Bu i’r Swyddog
Addysg Ardal Dwyfor / Meirion esbonio’r drefn a ddilynwyd o ran y drafodaeth a
gafwyd yn lleol. Nodwyd sut y daethpwyd i symud ymlaen ar y cynnig arfaethedig.
Mynegodd yr Aelodau
Lleol ofid a siom am y sefyllfa’r ysgol, gan ychwanegu fod y lefel o addysg yn
cyrraedd safon arbennig. Nododd ei fod yn derbyn fod y niferoedd yn gostwng ac
o ganlyniad fod cost y plentyn yn llawer uwch nac y canran sirol. Pwysleisiodd
y bydd cau’r ysgol yn creu effaith hir dymor ar y gymuned ond fod yr
ymgynghoriad hyd yma a’r gymuned wedi bod yn un teg a thrylwyr.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Holwyd
beth oedd y camau sydd wedi ei gymryd ar hyn o bryd o ran ymgynghori a phobl
leol. Mynegwyd fod trafodaethau wedi digwydd ond fod y broses statudol ychydig
yn wahanol ond y bydd ychydig o ail adrodd yn cael ei wneud. Pwysleisiwyd fod
llawer o opsiynau wedi eu hystyried cyn cyrraedd y cynnig arfaethedig.
¾
Nodwyd
nad oedd angen i drafodaeth flaenorol gael ei gynnal i drafod opsiynau gyda’r
gymuned gan fod y niferoedd wedi disgyn o dan 10 disgybl ond fod yr adran wedi
teimlo dyletswydd i drafod a staff, rhieni, llywodraethwyr a budd-ddeiliaid er
mwyn sicrhau fod y trafodaethau yn dryloyw
Awdur: Gwern ap Rhisiart