8 FFRAWMAITH DATBYGLU CENEDLAETHOL:YMGYNGHORIAD PDF 451 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
¾ Gymeradwyo’r
ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
¾ Roi’r hawl i’r
Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau
golygyddol a gweinyddol
¾ Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif
bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd i:
¾ Gymeradwyo’r
ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
¾ Roi’r hawl i’r
Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau
golygyddol a gweinyddol
¾ Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif
bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal yn dilyn cael copi drafft
cyntaf y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod trafodaethau wedi eu
cynnal gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn ogystal â bod eu hymateb i’r Fframwaith i
raddau'r un peth a Chyngor Gwynedd.
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd y fframwaith gan ei fod yn delio o gyfnod o 20 mlynedd ac felly fod
angen rhoi llawer o sylw iddo.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd fod y ddogfen yn dangos
twf economaidd yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ond yn dangos diffyg
dealltwriaeth o ardaloedd gwledig a datganwyd siomedigaeth yn y fframwaith a
nodwyd fod angen ymateb cryf iddo.
¾
Tynnwyd sylw at y ffordd mae’r
iaith yn cael ei bortreadu. Mynegwyd ei bod yn warthus fod cyn lleied o
ddealltwriaeth o iaith gan Lywodraeth Cymru ac yr ymdeimlad yn y Fframwaith yw
nad yw’r Gymraeg yn iaith fyw.
¾
Esboniwyd pan ddarllenwyd y
Fframwaith ei bod yn swnio fel jôc gan fod anghysondebau o ran rhanbarthau yng
Nghymru ac mai hwn fydd gweledigaeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf. Tynnwyd sylw
at fap yn y Fframwaith gan nodi’r amryw o brosiectau a chysylltiadau
rhanbarthol wedi eu gadael allan ohono gan nodi fod angen i’r Llywodraeth ail
gychwyn y gwaith o greu’r Fframwaith.
¾
Mynegwyd fod y Fframwaith wedi ei
greu i edrych ar ranbarthau ac nid ar y wlad. Ychwanegwyd nad oes sôn am sut i
greu gwlad nac ychwaith sut i sicrhau fod pob rhanbarth yn cysylltu. Tynnwyd
sylw yn ogystal fod Prif Ysgol Leeds wedi cynorthwyo
i greu’r Fframwaith gan holi’r cwestiwn pam fod angen mynd allan o Gymru pan
mae Prif Ysgolion ar gael yma.
¾
Holwyd beth yw’r ymatebion gan
siroedd eraill, a nodwyd fod yr ymateb yn debyg ar draws y wlad.
¾
Nodwyd tristwch am ddiffyg
gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru a bod y Fframwaith yn dal y wlad yn
ôl i gyflawni ei botensial. Ychwanegwyd nad oes son
am economi gwledig o ran newid amaeth, ynni a thwristiaeth a bod angen ei ail
lunio gyda gweledigaeth ac uchelgais glir
Awdur: Gareth Jones