5 DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN TWF PDF 161 KB
Adroddiad
gan Colin Everett (Prif
Weithredwr Arweiniol – Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru)
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd
fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg:
¾
Y buasai
llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith ar
dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith ar y
gallu i gyflawni prosiectau yn llwyddiannus o fewn yr amserlen.
¾
Cynllun
Economaidd Llwyodraeth Cyrmu ddim yn cyd fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y
Bwrdd Uchelgais
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Colin Everett, Y Prif Weithredwr Arweiniol.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd
fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg:
¾
Y
buasai llithriad yn yr amserlen
i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith
ar dderbyn arian y Cynllun
Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith
ar y gallu i gyflawni prosiectau
yn llwyddiannus o fewn yr amserlen.
¾
Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru ddim yn cyd
fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y Bwrdd Uchelgais
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi
diweddariad ar ddatblygiad Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnwyd sylw at
arwyddo’r Penawdau’r Telerau, Penodiadau yn y swyddfa’r rhaglen ynghyd ac
adrodd ar waith o adolygu a diweddaru’r Rhaglen Waith ynghyd a chofrestr risg.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bellach fod
y Penawdau’r Telerau wedi ei llofnodi cyn y cyfnod cyn etholiadol. Ychwanegwyd
drwy eu llofnodi fod £240 miliwn o fuddsoddiad wedi ei sicrhau ac y bydd angen
llofnodi’r fargen derfynol yn ystod trydydd chwarter 2020/21.
Mynegwyd fod pum penodiad wedi ei wneud i’r
Swyddfa Rhaglen a bod lleoliad i’r Swyddfa Rhaglen wedi ei gadarnhau. Nodwyd y
bydd trafodaeth bellach ar y rhaglen waith a’r gofrestr risg yn y cyfarfod
nesaf. Pwysleisiwyd y bydd angen ychwanegu risg i’r gofrestr yn nodi pe bai
llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol byddai’n cael effaith ar dderbyn arian y Cynllun Twf
gan y Llywodraeth.
Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd yn 2020 a
diolchwyd i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod dros dro.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
¾
Trafodwyd strwythur y Swyddfa raglen..
¾
Diolchwyd i’r aelodau am fynd i lofnodi’r Penawdau’r
Telerau.
¾
Nodwyd o ran y gofrestr
risg nad
yw Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd
a’r Weledigaeth Twf ac y gallai fod yn risg.
¾
Ategwyd fod y cyfarfod nesaf wedi ei amserlennu
i fod ddiwrnod
ar ôl yr
etholiad, o ganlyniad i hyn penderfynwyd
gohirio’r cyfarfod.