6 CAIS AM ARIAN ESF PDF 175 KB
Adroddiad gan Nia Medi Williams (Uwch Swyddog
Gweithredol, Cyngor Gwynedd) a
Barbara Burchell (Prif Swyddog Datblygu Prosiectau
Ewropeaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
¾ Ddirprwyo’r hawl i Gyngor Gwynedd fel Corff Lletya
i baratoi a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar sail cynnwys yr adroddiad.
¾ Ddirprwyo’r
hawl i Brif Weithredwr y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr
Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i dderbyn cynnig grant
gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect (£5.6miliwn) ar gyfer y
cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023.
¾ Gadarnhau y
bydd y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i gyfrannu 50% o arian cyfatebol yn bennaf
drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau
partneriaid).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Jane Richardson, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy.
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
¾ Ddirprwyo’r hawl i Gyngor
Gwynedd fel Corff Lletya i baratoi
a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar
sail cynnwys yr adroddiad.
¾ Ddirprwyo’r hawl
i Brif Weithredwr
y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i
dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig
ar 50% o gyfanswm cost y prosiect
(£5.6miliwn) ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023.
¾ Gadarnhau y bydd
y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i
gyfrannu 50% o arian cyfatebol
yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau partneriaid).
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Nodwyd
fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi bod yn gweithio ar gais Cronfa
Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) i ddylunio ac adeiladu’r capasiti
angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r Cynllun Twf Gogledd Cymru. Ychwanegwyd y bydd
y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r weledigaeth
Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen.
Mynegwyd fod y cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau
y gall y Bwrdd Uchelgais fwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes.
Ategwyd
fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi datblygu’r manylion ar gyfer y
Cynllun Busnes a bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i WEFO yn dilyn
cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan dynnu sylw at addasiadau i’r adran gyllidol yn yr adroddiad.
Ychwanegwyd fod cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau y
bydd modd bwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes.
Ategwyd fod strwythur staffio wedi ei greu
ac y bydd angen rhai aelodau staff yn eu lle erbyn mis Ebrill er mwyn i WEFO
edrych yn ffafriol ar y cais. Ychwanegwyd os bydd y Bwrdd Uchelgais yn
llwyddiannus ar cais bydd modd
ôl-ddyddio costau staff ac yn galluogi’r rhanbarth i adhawlio costau staffio o
Orffennaf 2018.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi cadw argostau
yn isel a buasai cael adhawlio
costau staffio yn sicrhau y bydd arian wrth gefn i
gymorthdalu amrywiol gostau.
·
Holwyd beth oedd amserlen cael
gwybod os yn llwyddiannus a'r cais, nodwyd
y bydd yn anodd cael dyddiad
pendant ond y bydd yn fwy clir
yn dilyn cyflwyno’r cais i WEFO.
·
Mynegwyd y bydd y swyddi a fydd yn cael
eu penodi o fis Ebrill ymlaen
yn ddibynnol ar gadarnhau y bydd y Bwrdd Uchelgais
yn derbyn yr arian grant ac na fydd y swyddi
yn cael eu
hysbysebu nes y bydd cadarnhad o’r arian grant.