7 CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH RHANBARTHOL PDF 190 KB
Adroddiad gan David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Rhaglen Sgiliau)
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cadarnhawyd y Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u
hamlinellu yn y cynllun.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Roberts,
Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a Sian Lloyd Roberts, Rheolwr y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
PENDERFYNIAD
Cadarnhawyd y Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u
hamlinellu yn y cynllun.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Nodwyd fod y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth
Gogledd Cymru 2019-2022 wedi’i ddatblygu fel Sylfaen i ddull gweithredu
strategol Llywodraeth Cymru i gyflawni darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn y
rhanbarth.
Mynegwyd
fod yr adroddiad yn adrodd i’r Bwrdd ar y cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol
sydd wedi ei gynhyrchu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn
dilyn ymgynghoriadau gyda’r rhan ddeiliaid a darparwr rhanbarthol a’r diwydiant
rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlinellu
rhai o’r cynlluniau yn dilyn ymgynghoriad eang a gynhaliwyd yn ystod yr haf.
Mynegwyd eu bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno a’r cynllun fel
bod modd symud ymlaen a’r cynlluniau. Ategwyf fod Uwchgynhadledd Sgiliau yn
cael ei gynnal ym mis Tachwedd a fydd yn amlygu ‘r prif ffocws.
Pwysleisiwyd fod y blaenoriaethau wedi eu
creu yn dilyn casglu tystiolaeth gyda rhan ddeiliaid. Amlinellwyd y
blaenoriaethau gan nodi mai’r camau nesaf fydd i ddatblygu’r blaenoriaethau
ymhellach ar gyfer creu cynllun gweithredu penodol a manwl a fydd y ogystal
yn gynllun cyflawni yn y tair blynedd
nesaf.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Diolchwyd
am y cyflwyniad a chytunwyd ar y 3 blaenoriaeth gan ychwanegu efallai pedwerydd
- swyddi cynaliadwy. Ategwyd fod angen cadw staff yn eu swyddi er mwyn lleihau
staff trosiannol ac i gadw talent yn yr ardal.
·
Mynegwyd
fod angen pwysleisio fod y maes twristiaeth yng Nghymru yn un ble mae modd
datblygu a derbyn cyflogau uchel.
·
Nodwyd
fod y gwaith gan Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau wedi cael effaith positif ar
sut mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei weld gan y Prifysgolion
a’r Colegau.
·
Tynnwyd
sylw at y Gymraeg gan amlygu mai dim ond un frawddeg sydd yn cyfeirio at y Gymraegyn y Cynllun. Mynegwyd fod angen uchafu’r Gymraeg.
·
Amlygwyd
fod materion gweledig yn codi o ran anawsterau mynediad, nodwyd fod cynllun Leader ar gael ond efallai y bydd yn dod i ben ac o
ganlyniad fod angen ei nodi fel bygythiad.