5 DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL PDF 88 KB
Emlyn Jones i ddiweddaru aelodau ar y sefyllfa bresennol o ran
Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSVAR) ac adnewyddu
teithio rhatach am ddim.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd ar ôl ystyried y
sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran Drafnidiaeth
Llywodraeth Prydain ar ran yr Is-Fwrdd i nodi'r problemau y gall godi o
ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Peter Daniels.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd
ar ôl ystyried y sefyllfa bresennol i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ac i Adran
Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ar ran yr Is Fwrdd i nodi'r problemau y gall
godi o ganlyniad i’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod dau brif agwedd i’w drafod.
Trafodwyr
Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus gan nodi fod llythyr wedi
ei dderbyn gan awdurdodau lleol yn ddiweddar yn egluro’r broses o wneud cais am
estyniad i’r broses o ddwy flynedd os yn cyrraedd meini prawf penodol. Nodwyd
mai mynediad ar gyfer y bobl anabl yw’r prif reswm dros yr eithriad. Tynnwyd
sylw at bryder fod yr eithriad ond yn
berthnasol os na werthir mwy nag 20% o’r seddi ar fysiau. Mynegwyd fod angen
lobi Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r canran hwn. Nodwyd fod pryderon yn
codi am y cyfnod saib a'r buddsoddiad fydd ei angen ei wneud i sicrhau bysus
sydd yn cyrraedd y safon a holwyd beth fydd goblygiadau hyn ar fusnesau.
O ran yr
ail agwedd, Adnewyddu Tocynnau Teithio Mantais am ddim, nodwyd fod niferoedd yn
parhau yn isel ar draws Cymru. Mynegwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn codi
ymwybyddiaeth o’r mater ac efallai y bydd yn codi’r niferoedd. Ychwanegwyd y
bydd Ionawr yn fis ble fydd modd defnyddio’r ddau docyn ond y bydd o ganlyniad
yn golygu llawer o waith i’r cwmnïau bysus.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd er ei fod yn
bositif y bydd estyniad yn cael ei roi am ddwy flynedd y buasai yn well pe bai
rheoliadau yn dod i rym i ysgolion ar ddechrau blwyddyn ysgol yn hytrach ‘na
fis Ionawr.
¾ Nodwyd y buasai’r
rheoliadau bysus yn gorfodi cwmnïau i dynnu allan o gytundebau gan fod eu model
busnes wedi ei seilio ar y cytundebau yma.
¾ O ran rheoliadau
cerbydau i ysgolion mynegwyd fod pob awdurdod yn wahanol oherwydd yn rhai
awdurdodau megis Wrecsam fod yr ysgolion yn cytundebu yn uniongyrchol a
chwmnïau. Pwysleisiwyd fod angen bod yn ymwybodol o'r effaith ar ysgolion a
tynnwyd sylw yn benodol at fysiau i weithgareddau megis gwersi nofio.
¾ O ran adnewyddu
tocynnau teithio mantais am ddim nodwyd fod angen sicrhau fod y rhai sydd yn
defnyddio’r tocynnau fod yn ymwybodol o’r newidiadau.