Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/12/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth (eitem 6)

6 DIWEDDARIAD AR Y CYNNYDD MEWN PERTHYNAS Â CHYFYNGIADAU CYFLYMDER 20 MYA AR GYFER ARDALOEDD PRESWYL LEDLED CYMRU pdf eicon PDF 95 KB

Huw Percy a Stephen Jones i ddiweddaru’r Is-Fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Penderfynwyd fod angen i’r Is-Fwrdd fynd ag adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Huw Percy

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd fod angen i’r Is-Fwrdd fynd ag adroddiad i drafod yr effaith economaidd ar gyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer ardaloedd i’r Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cyhoeddiad wedi ei wneud gan y Prif Weinidog y dylai Llywodraeth Cymru geisio mabwysiadu 20mya fel cyfyngiad cyflymder rhagosoded ar gyfer ardaloedd preswyl ledled Cymru. Esboniwyd mai annog newid y dull o deithio yw’r rheswm dros y newidiadau arfaethedig. Mynegwyd fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi ei sefydlu o rhan ddeiliaid ac y bydd swyddogion o Sir Fflint a Môn yn mynychu o’r Gogledd.

 

Mynegwyd fod y Grŵp wedi ei rannu yn bedwar Grŵp Prosiect er mwyn edrych ar bedwar prif ffrwd gwaith. Nodwyd o ran gorfodaeth ar hyn o bryd fod hunan orfodaeth yn cael ei amlygu gan nad oes gan yr Heddlu adnoddau ar ei gyfer. Ychwanegwyd y bydd trafodaeth ag awdurdodau i drafod hawliau gorfodaeth. Tynnwyd sylw at yr amserlen gan nodi y gobeithir y bydd deddfwriaeth cyn Hydref 2020 gyda’r nod o gychwyn gweithredu’r cynllun yn 2023.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd y bydd oblygiadau ariannol o fod yn rhan o’r cynllun hwn.

¾     Mynegwyd nad oes ystadegau yn rhan o’r adroddiad gan y Llywodraeth o ble mae goryrru yn broblem, gan ychwanegu y buasai pobl o bosib yn fwy parod i ymateb os yn ymateb i ffigyrau cadarn. Pwysleisiwyd mai anodd newid dull o deithio oddi wrth geir ac i gerdded a beicio yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth.

¾     Holwyd os oes cynlluniau peilot am gael eu cynnal yn rhai siroedd er mwyn mesur yr effaith.

¾     Trafodwyd lonydd cyswllt gan nodi y gallai fod a phroblemau, ac ychwanegwyd y bydd angen gwybod ble yn union y bydd eithriadau ac os byddant yn gyson ar draws y wlad.

¾     O ran gorfodaeth holwyd pwy fydd yn gwneud hyn gan y bydd oblygiadau ariannol i’r cynllun i awdurdodau ac esboniwyd y bydd gwaith penodol yn edrych ar hyn ymhellach.

¾     Tynnwyd sylw at yr effaith economaidd gan nodi fod angen codi ymwybyddiaeth y Bwrdd Uchelgais.