Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/12/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD PARCIO AR BALMENTYDD pdf eicon PDF 86 KB

Huw Percy i ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen nodi’r canlynol:

  • Nad oes deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal
  • Fod angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig
  • Cefnogaeth i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac amser staff. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Huw Percy.

 

PENDERFYNWYD

 

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen nodi’r canlynol:

·         Nad oes deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal

·         Fod angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig

·         Cefnogaeth i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac amser staff. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon yn dilyn trywydd yr eitem flaenorol o ran cyfeiriad y Llywodraeth i annog cerddedwyr. Ychwanegwyd fod parcio ar balmentydd yn berygl ac yn gosod rhwystrau i gerddwyr ynghyd â difrodi’r palmentydd. Mynegwyd fod Deddfwriaeth Rheoli Traffig Ffordd yn galluogi awdurdodau i gyflwyno gwaharddiadau a bod grŵp penodol gan Lywodraeth Cymru wedi ei sefydlu i edrych ymhellach ar y mater.

 

Mynegwyd mai consensws y grŵp yw na fydd cyflwyno gwaharddiad cenedlaethol yn benodol ar hyn o bryd oherwydd bod llawer o heriau. Nodwyd y buasai yn fwy ymarferol i awdurdodau i osod gwaharddiadau ar leoliadau addas. Esboniwyd y bydd camau penodol  fydd yn cynnwys ymgynghori, canllawiau safon ar rybuddion a gwybodaeth bellach. Ychwanegwyd y bydd modd i Weinyddwyr Parcio gallu cadw golwg ar leoliadau sydd yn achosi problemau.

 

Ategwyd y bydd argymhelliad yn cael ei wneud i’r Gweinidog i drafod y mater a’r  awdurdodau a’r heddlu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod lleoliadau yn bryder gan fod rhai lonydd yn gul ac nad oes opsiwn ond am barcio ar balmentydd a gall greu problemau o ran llif traffig. O ganlyniad bydd angen sicrhau fod y lleoliadau yn rhai synhwyrol.

¾     Pwysleisiwyd fod angen sicrhau fod y palmentydd yn saff gan fod arian wedi ei wario i sicrhau fod modd i bobl mwn cadeiriau olwyn eu defnyddio. Ychwanegwyd fod angen sicrhau ar rhai strydoedd fod modd i’r Gwasanaethau Brys basio heb geir yn rhwystr.

¾     Nodwyd os bydd angen sicrhau mannau parcio y bydd angen arian ychwanegol i greu meysydd parcio.

¾     Mynegwyd fod angen pwysleisio’r pwyntiau penodol yn y Grŵp Tasg.