7 DIWEDDARIAD PARCIO AR BALMENTYDD PDF 86 KB
Huw Percy i
ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.
Penderfyniad:
Cefnogwyd fod y
swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y Grŵp Tasg Parcio
Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi ei wneud a bod angen
nodi’r canlynol:
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Huw Percy.
PENDERFYNWYD
Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd y
Grŵp Tasg Parcio Palmentydd gan nodi eu bod yn hapus a’r cynnydd sydd wedi
ei wneud a bod angen nodi’r canlynol:
·
Nad oes
deddfwriaeth flanced ar gyfer pob ardal
·
Fod
angen meddwl am leoliadau penodol ac am lif traffig
·
Cefnogaeth
i waharddiadau parcio yn lleol ond fod angen canllawiau clir ac arian ar gyfer
codi ymwybyddiaeth ac amser staff.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon yn dilyn trywydd yr eitem flaenorol o ran
cyfeiriad y Llywodraeth i annog cerddedwyr. Ychwanegwyd fod parcio ar
balmentydd yn berygl ac yn gosod rhwystrau i gerddwyr ynghyd â difrodi’r
palmentydd. Mynegwyd fod Deddfwriaeth Rheoli Traffig Ffordd yn galluogi
awdurdodau i gyflwyno gwaharddiadau a bod grŵp penodol gan Lywodraeth
Cymru wedi ei sefydlu i edrych ymhellach ar y mater.
Mynegwyd
mai consensws y grŵp yw na fydd cyflwyno gwaharddiad cenedlaethol yn
benodol ar hyn o bryd oherwydd bod llawer o heriau. Nodwyd y buasai yn fwy
ymarferol i awdurdodau i osod gwaharddiadau ar leoliadau addas. Esboniwyd y
bydd camau penodol fydd yn cynnwys
ymgynghori, canllawiau safon ar rybuddion a gwybodaeth bellach. Ychwanegwyd y
bydd modd i Weinyddwyr Parcio gallu cadw golwg ar leoliadau sydd yn achosi
problemau.
Ategwyd
y bydd argymhelliad yn cael ei wneud i’r Gweinidog i drafod y mater a’r awdurdodau a’r heddlu.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd fod lleoliadau
yn bryder gan fod rhai lonydd yn gul ac nad oes opsiwn ond am barcio ar
balmentydd a gall greu problemau o ran llif traffig. O ganlyniad bydd angen
sicrhau fod y lleoliadau yn rhai synhwyrol.
¾ Pwysleisiwyd fod angen
sicrhau fod y palmentydd yn saff gan fod arian wedi ei wario i sicrhau fod modd
i bobl mwn cadeiriau olwyn eu defnyddio. Ychwanegwyd fod angen sicrhau ar rhai
strydoedd fod modd i’r Gwasanaethau Brys basio heb geir yn rhwystr.
¾ Nodwyd os bydd angen
sicrhau mannau parcio y bydd angen arian ychwanegol i greu meysydd parcio.
¾ Mynegwyd fod angen
pwysleisio’r pwyntiau penodol yn y Grŵp Tasg.