8 PAPUR DIWEDDARU AR DDATBLYGIAD MABWYSIADU 'FFYRDD HEB EU MABWYSIADU' LEDLED CYMRU PDF 82 KB
Huw Percy i
ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.
Penderfyniad:
Cefnogwyd fod y
swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu
Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd
gan Huw Percy.
PENDERFYNIAD
Cefnogwyd
fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb
eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cam cyntaf
o waith y Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu bellach wedi ei gwblhau.
Ychwanegwyd fod ‘Canllaw Model Mabwysiadu Ffyrdd’ wedi ei greu a bod gwaith
bellach yn symud ymlaen gyda’r ail ran. Ategwyd mai’r ail gam fydd i sefydlu
cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o’r holl ffyrdd sydd heb eu
mabwysiadu ac i ddatblygu safonau cyffredin ar gyfer dylunio ac adeiladau
priffyrdd i’w ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd
y gellir eu mabwysiadu
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Pwysleisiwyd fod angen
safonau cyffredin gan eu bod yn amrywio o fewn ardaloedd ac felly fod angen
cysondeb ar gyfer datblygwyr tai.
¾ Nodwyd na fydd y
ddeddfwriaeth yn edrych ar achosion hanesyddol ond yn sicrhau na fydd problemau
newydd yn digwydd.