Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/12/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth (eitem 8)

8 PAPUR DIWEDDARU AR DDATBLYGIAD MABWYSIADU 'FFYRDD HEB EU MABWYSIADU' LEDLED CYMRU pdf eicon PDF 82 KB

Huw Percy i ddiweddaru’r is-fwrdd ar ddatblygiadau.

Penderfyniad:

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Huw Percy.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd fod y swyddogion perthnasol yn mynychu’r cyfarfodydd Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan adrodd yn ôl i’r Is-Fwrdd Trafnidiaeth

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cam cyntaf o waith y Grŵp Tasg Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu bellach wedi ei gwblhau. Ychwanegwyd fod ‘Canllaw Model Mabwysiadu Ffyrdd’ wedi ei greu a bod gwaith bellach yn symud ymlaen gyda’r ail ran. Ategwyd mai’r ail gam fydd i sefydlu cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o’r holl ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ac i ddatblygu safonau cyffredin ar gyfer dylunio ac adeiladau priffyrdd i’w ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd y gellir eu mabwysiadu

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd fod angen safonau cyffredin gan eu bod yn amrywio o fewn ardaloedd ac felly fod angen cysondeb ar gyfer datblygwyr tai.

¾     Nodwyd na fydd y ddeddfwriaeth yn edrych ar achosion hanesyddol ond yn sicrhau na fydd problemau newydd yn digwydd.