9 RHAGLEN CYFALAF - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 310 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r
rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef:
·
£50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca
·
£1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
·
£114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
·
£23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
·
Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
·
£228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng.
Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a
chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
£50,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca
·
£1,072,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
·
£114,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
·
£23,000 o leihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
·
Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
·
£228,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Amlygwyd
fod yr adroddiad diwygiedig yn amlygu cyfanswm o £89.1miliwn dros y tair
blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod £1.341miliwn o gynnydd yn yr y gyllideb ers y
adolygiad blaenorol.
Pwysleisiwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi
£31.8 miliwn yn 2019/20 ar gynlluniau cyfalaf. Ategwyd fod £13miliwn ohono wedi
ei ariannu drwy grantiau. Mynegwyd fod £9.2miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig
wedi’i ailbroffilio o 2019/20 i 2020/21 ond nad yw’r newid hwn wedi achosi
unrhyw golled ariannol i’r Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Trafodwyd
hawliadau gweithwyr sydd yn gweithio ar gynlluniau sydd yn cael eu hariannu yn
benodol gan grantiau a mynegwyd fod angen trafodaeth bellach ar y mater.
¾
Mynegwyd
fod angen llawenhau yn y £31.7miliwn o gynlluniau cyfalaf ar gyfer 2019/20, a
diolchwyd i’r staff am gynllunio prosiectau o flaen llaw fel bod modd manteisio
ar arian munud olaf.
¾
Tynnwyd
sylw at £1.9miliwn fydd ar gael i wella adeiladau ysgolion a fydd a oblygiadau
i’r cynllun asedau.
Awdur: Ffion Madog Evans