6 POLISI IECHYD A DIOGELWCH A LLESIANT PDF 86 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y Polisi Iechyd
Diogelwch a Llesiant newydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd
y Polisi Iechyd Diogelwch a Llesiant newydd.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan bwysleisio fod cael Polisi Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn
ofyniad cyfreithiol. Ychwanegwyd oherwydd maint y Cyngor fod angen i’r polisi
fod yn gwbl glir. Mynegwyd fod y polisi cyfredol yn dyddio yn ôl i 2015 ac fod llawer
o newidiadau wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf. Amlygwyd fod y polisi yn
adlewyrchu y newidiadau hyn ac yn symud tu hwnt i’r ymrwymiad cyfreithiol
gofynnol.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd
fod y maes yn un pwysig ac yn ganolog i waith y Cyngor. Ychwanegwyd pwysigrwydd
o gael polisïau cadarn.
¾
Amlygwyd
nad oedd sylwad gan yr undeb a gofynnwyd os oedd hyn yn rhywbeth anarferol.
Mynegwyd nad oedd ac nad oedd sylwad na gwrthwynebiad i’r polisi.
¾
Tynnwyd
sylw at siart llif o’r drefn o gynnal ymgynghoriad gan bwysleisio fod trefn
cadarn i’w ddilyn.
¾
Mynegwyd
fod digwyddiadau Iechyd a Diogelwch yn digwydd a bod y polisi yno i roi
arweiniad i’r staff
Awdur: Geraint Owen