10 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 118 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad wedi ei seilio am gyfarfodydd herio
perfformiad yr adran ble roedd aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yno
hefyd. Tynnwyd sylw at y prif faterion oedd yn cynnwys y Strategaeth Technoleg
Gwybodaeth gan nodi fod y cynnydd yn araf ar hyn o bryd gan fod yr adran yn
canolbwyntio ar brosiect grant addysg sydd ag amserlen dynn.
Nodwyd o ran system
rheoli dogfennau a chofnodion electronig fod y cynllun yn mynd yn bositif iawn
ond fod ychydig o broblemau wedi codi. Nodwyd fod angen cylchredeg neges i’r
holl ddefnyddwyr i ofyn am adborth am y system. Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth
Technegol Gwybodaeth a mynegwyd fod amser wedi ei fuddsoddi i hyfforddi’r staff
fel eu bod wedi’i harfogi i ymateb a datrys problemau defnyddiwr dros y ffon ar
y cyswllt cyntaf. Amlygwyd yn ogystal fod cyfnod o 3 wythnos ym mis Tachwedd
fod systemau’r Cyngor wedi gweithredu oddi ar y gweinydd wrth gefn ar dri
achlysur oherwydd toriad. Pwysleisiwyd nad oedd y defnyddiwr yn ymwybodol o
hynny ac nad oedd unrhyw effaith ar eu gwaith.
Mynegwyd fod gwerth
holl ddyledion amrywiol dros 6 mis oed gohiriedig a dyledion a gyfeiriwyd am
weithrediad pellach i wasanaethau eraill yn uwch ar 30 Medi 2019 ac yr oedd ar
31 Mawrth 2019. Nodwyd mai un o‘r rhesymau dros hyn yw arafwch y Bwrdd Iechyd
yn talu gan fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar bwy ddylai fod yn talu.
Amlygwyd un o brif ddarnau gwaith yr adran dros y misoedd
diwethaf sef prisiant o’r Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod cynnydd yn y lefel
ariannu’r gronfa o 91% yn 2016 i 108% eleni. Golygiad hyn yw y gallwn weld
elfen o leihad yng nghyfraniad y Cyngor fel cyflogwr.
Nodwyd fod yr Aelod
Cabinet yn fodlon â pherfformiad yr adran ond fod lle i wella.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd fod busnesau bach yn gwerthfawrogi fod
anfonebau yn cael eu talu yn syth gan y Cyngor.
¾
Trafodwyd
fod 9 o bobl wedi dod i gyswllt a’r tîm adfer ac a gyfeiriwyd at fudiad CAB am
gyngor dyledion sydd yn ffigwr llawer is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mynegwyd efallai fod angen annog pobl i
drafod â’r staff, fel bod modd eu cyfeirio i’r gefnogaeth gywir.
Awdur: Dilwyn Williams