11 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS AMGLYCHEDD PDF 118 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Grffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud dros y misoedd a
fu. Mynegwyd fod y cyfarfod herio perfformiad wedi bod gyda’r Aelod Cabinet
ynghyd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Amlygwyd fod yr
Adran Amgylchedd wedi sefydlu system newydd, sef Tascomi a fydd yn cael ei
ddefnyddio gan amryw o wasanaethau o fewn yr adran a fydd yn rhoi gwasanaethau
gwell i’r trigolion. Ychwanegwyd fod arbedion wedi neu ar drac i gael eu
gwireddu a bod yr adran yn debygol o danwario am eleni.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Tynnwyd
sylw at y mesurydd nifer o apeliadau i’r beirniaid annibynnol sy’n cael eu
caniatáu gan nodi fod y nifer yn parhau yn 0. Amlygwyd fod hyn yn dangos
disgresiwn swyddogion yn gywir. Ychwanegwyd efallai fod angen nodi faint sydd
yn mynd i banel pan mae cwyn yn codi.
Awdur: Dilwyn Williams